|
Ar ôl ei chau, fe brynwyd yr Hen Eglwys gan y Friends of Friendless Churches
yn 1991. Mae safle'r eglwys yn un odidog yn sefyll ar fryn ynghanol
cae yn edrych dros draeth y Foryd a bae Caernarfon, ac wrth gwrs
ardal pedwaredd gainc y Mabinogi.
Mae cynllun yr eglwys y deilo o'r cyfnod cyn-gristnogol ac yn sefyll
mewn cornel lloc aml onglog yn ymestyn tua 1.7 hectar. Nid oes dim
i'w weld o'r lloc erbyn heddiw.
Uwch ben y fynedfa, fe welwch garreg yn nodi gwardeiniaid yr eglwys
yn 1772.
Mae muriau cynharaf yr eglwys, a atgyweiriwyd gyda chymorth sylweddol
gan CADW yn 1991, yn dyddio o'r 13eg/14eg ganrif, ac fe'i cwblhawyd
i'w chyflwr presennol yn yr 18fed ganrif .
Yn y fynedfa, fe welwch dwy garreg un fel silff, a'r llall fel
lintel, gyda chroes wedi'i cerfio arnynt.
Uwchben y drws fe welwch garreg arysgrifenedig hynafol, yn dyddio'n
ôl i'r 5 neu 6ed ganrif, ac arni mae Filli Lovernii Anatemori.
Lovernii, yw'r hen air Brythoneg am lwynog, a chredir mai hwn yw'r
cofnod ysgrifenedig hynaf ym Mhrydain sy'n cyfeirio at anifail.
Y tu mewn cewch weld eglwys fel ag yr oedd hi yn y 18fed ganrif,
meinciau syml i'r tlodion a seddi moethus i'r cyfoethog, ac ar y
rhain mae llawer wedi nodi ei henwau a'r dyddiad ar y seddi.
Mae yma hanes hynod o ddiddorol, ac mae'r eglwys yn werth ymweld
â hi.
Mae yna raglen gyson yn mynd ymlaen i wneud y gwaith cynnal a chadw,
fe ail galchwyd y tu mewn yn 2005 gan ddefnyddio calch melyn o Ynys
Môn, ac mae'n bosib mai fel hyn yr edrychai'r eglwys yn wreiddiol.
Fe atgyweiriwyd y porth ac fe ail bwyntiwyd y tu allan hefyd.
Yn ystod penwythnosau Treftadaeth Ewrop, mae plant yr ardal yn
cynnal cyngerdd yn yr eglwys yn Gymraeg.
Cyngor Gwynedd sydd yn gyfrifol am y fynwent.
Rydym yn ddiolchgar iawn i griw bychan o bobl leol sydd yn gwarchod
yr eglwys ar ein rhan.
If you would like to visit the church and need details of keyholders,
directions etc, please telephone our office on: 020 7236 3934.
|